Canu yn Ysbyty y Tywysog Phillip yn Llanelli


Gymnasteg yr Urdd


Disgo Siarter Iaith
Buom ni yn pedlo er mwyn cadw'r gerddoriaeth i fynd yn y disgo, da iawn wir!

Prynhawn coffi Bl.1 a Bl.2
Roedd y neuadd dan ei sang ar gyfer y Prynhawn coffi a phawb wedi mwynhau!

Ymweliad Tinopolis gan yr Arweinwyr Digidol a Phwyllgor E-ddiogelwch
Aeth y disgyblion i gwrdd gyda Dyn y tywydd er mwyn dysgu mwy am y sgrin werdd.
Cawsom daith o amgylch y stiwdio hefyd.
Ymweliad arbennig!





Y Scarlets yn ymweld i ddangos Tlws y Pro 12 - Llongyfarchiadau!!

Dyma'r Llysgenahdon gyda'r tlws.

Mor o goch ar Ddydd Trwynau Coch!

Dathlu penblwydd yr ysgol yn 70 oed
Yn barod i orymdeithio i'r dref.

Diwrnod E-ddiogelwch
Cawsom wasanaeth E-ddiogelwch arbennig gan Mrs Clwyd Davies a chyflwyniad buddiol iawn gan aelodau Blwyddyn 6 o'r Pwyllgor E-ddiogelwch a'r Arweinwyr Digidol. Cafwyd weithgareddau ar draws yr ysgol yn trafod y mater holl bwysig yma yn ystod y dydd.


Ymweliad gan Dai Greene
Cawsom gyfle i gwrdd gydag athletwr enwog o Lanelli, Dai Greene. Dangosodd nifer o'i fedalau aur i ni. Rydym yn hynod o ddiolchgar iddo am ymweld gyda ni. MAe ganddo gysylltiad agos iawn gyda'r ysgol gan mai ei dad, Mr Steve Greene yw gofalwr yr ysgol.

Bad Achub Porth Tywyn
Cyflwynwyd siec i'r Bad Achub ym Mhorth Tywyn ar ol i ddisgyblion godi arian ar eu cyfer trwy werthu ysgytlaeth. Da iawn chi blant!

Plant mewn angen
Cafwyd ddiwrnod arbennig gydag amrywiaeth o weithgareddau wedi'u trefnu gan y Cyngor Ysgol. Llwyddwyd i godi dros £1000!!



First Responders
Treuliodd y tim ddiwrnod yn yr ysgol yn trafod sut i ddelio gydag achosion brys. Gwybodaeth gwerthfawr iawn i'r disgyblion.
Sioe Asra
Bu pedwar o ddisgyblion Blwyddyn 4 yn ffilmio rhaglen deledu newydd a chyffrous "Asra" yn ystod y gwyliau, mae'n amlwg iddynt fwynhau!

Prynhawn Coffi Masnach Deg
Cafwyd prynhawn coffi llwyddiannus iawn yn yr ysgol. Buodd y plant yn canu nifer o ganeuon ac yn diddanu'r rhieni a oedd yn eu gwylio.
Yn ystod y prynhawn cafodd y rhieni de, coffi a bisgedi Masnach Deg a chyfle i brynu nwyddau Masnach Deg oddi ar ein stondin.
Diolch yn fawr iawn i bawb a gefnogodd!
Diwrnod y Llyfr
Cafwyd ymwelydd pwysig iawn yn yr ysgol sef cyn fardd plant Cymru Aneirin Karadog yn trafod pwysigrywdd darllen a llyfrau, yn perfformio rhai o'i gerddi a rap ac yn cynnal gweithdai gyda phlant Bl. 5 a Bl. 6.
Gwisgodd pawb fel eu hoff gymeriad o lyfr!








Dathliadau Gwyl Ddewi
Bu'r ysgol gyfan yn dathlu gwyl ein nawddsant a phenblwydd yr ysgol. Cafwyd ddiwrnod arbennig, edrychwch ar y lluniau!

















Gwasanaeth Nadolig y Cyfnod Sylfaen
Cafwyd Wasanaeth Nadolig arbennig gan ddisgyblion y Cyfnod Sylfaen,
canu a llefaru penigamp yn adrodd gwir ystyr y Nadolig!

Sioe Cyfnod Allweddol 2
Cyflwynodd ddisgyblion Cyfnod Allweddol 2 sioe arbennig, "Hen ddyn y lleuad".
Cafwyd berfformaidau gwych!
